Mae wedi bod yn gyfnod cyffrous a hynod o brysur, a dyma ddiweddariad o ran ble mae pethau’n sefyll gyda Menter Y Vale.
Gobeithiwn, erbyn hyn, eich bod chi eisoes wedi clywed y newyddion arbennig ein bod ni wedi cyrraedd y targed heriol o osodwyd o ran codi arian trwy werthu cyfranddaliadau yn y Fenter. Prynwyd siârs ymhob cwr o Ddyffryn Aeron, trwy Geredigion a Chymru ben baladr; prynwyd siârs yn Los Angeles, yng Nghanada, yn Hong Kong ac ym Mhortiwgal.
A ninnau wedi cael amser nawr i gyfri a sicrhau taliadau ac ati, dyma rannu’r newyddion arbennig gyda chi, ein bod ni wedi llwyddo i godi £380,788, gyda rhai taliadau yn parhau i gyrraedd. Mae hwn yn swm parchus iawn a diolch i bob un o’r buddsoddwyr bydd hyn yn ein galluogi ni i symud ymlaen gyda’r camau nesaf yn llawn hyder.
Bydd y camau nesaf yn cynnwys cwblhau’r broses o brynu’r eiddo, a byddwn yn symud ymlaen gyda hynny yn fuan. Ar yr un pryd fe fyddwn ni’n bwrw ymlaen gyda chyfres o geisiadau am grantiau o’r gwahanol gronfeydd sydd ar gael i gefnogi mentrau a phrosiectau tebyg, er mwyn sicrhau cymorth ariannol ar gyfer ymgymryd â gwelliannau y mae angen eu gwneud i’r adeilad. Bydd hynny yn cynnwys datblygu syniadau ar gyfer gwelliannau, hynny er mwyn ymgynghori gyda’n rhanddeiliaid i gyd; mae’r broses yma’n debygol o gymryd tipyn o amser, gydag un o’r cronfeydd amlycaf eisoes wedi gohirio’r dyddiad ar gyfer y ceisiadau nesaf. Fodd bynnag, dyfal donc a dyr y garreg, ac mae buddsoddiadau eisoes wedi caniatáu i ni fwrw ymlaen i brynu’r eiddo, ac wedi sicrhau fod gennym swm golew i’w gyfrannu i’r prosiect adnewyddu a datblygu.
Mae’n sicr felly bod yna fisoedd o waith eto cyn bod yna sicrwydd o ran hyd a lled y prosiect adnewyddu a datblygu. Fodd bynnag, gallwn gadarnhau ei bod hi’n fwriad ail-agor drysau’r Vale cyn gynted ag y gallwn ni, a hynny ar ei wedd gyfarwydd. Mae yna ychydig o waith eto i’w gwneud cyn gallwn ni gadarnhau yn union pryd a sut fydd hynny’n digwydd, ond gallwn ddweud yn bendant y byddwn ni’n cadw mewn cysylltiad â chi, ein holl gefnogwyr a buddsoddwyr yn ystod yr wythnosau a misoedd nesaf er mwyn holi barn, chwilio am wirfoddolwyr a rhannu newyddion.
Yn y cyfamser hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cefnogi’r fenter ac sydd wedi bod mor hael wrth fuddsoddi. Gan ddymuno’r gorau am y flwyddyn i ddod. Edrychwn ymlaen at rannu cwrw bach yn y Vale gyda chi cyn bo hir. Iechyd Da!