Paratoi i ailagor y Vale
Efallai ei bod hi’n ymddangos ein bod ni wedi bod yn eithriadol o dawel dros y 4 mis diwethaf – ers pan lwyddon ni i godi gwerth £380,000 mewn siârs er mwyn ailagor tafarn y Vale. Ond mae tipyn o waith wedi digwydd yn y cefndir!
Mae Menter Tafarn y Dyffryn bellach wedi:
- Cofrestru ar gyfer TAW
- Penodi cyfreithwyr
- Penodi Syrfëwr Adeiladu
- Newid y drwydded, a phenodi 3 DPS (Designated Premises Supervisor)
- Trefnu yswiriant
- Penodi ymgynghorydd allanol (gyda chefnogaeth ariannol Cynnal y Cardi) i adnabod cyfleoedd grantiau a dadansoddi anghenion lleol fyddai’n denu buddosddiad ariannol ychwanegol
- Dosbarthu tystysgrifau rhanddeiliaid i’r 649 o aelodau
- Gwneud trefniadau er mwyn gosod band eang a system tiliau modern
- Trafod gyda bragdai a chyflenwyr
Mae pryniant y dafarn yn dal i fynd rhagddo, ac er ein bod ni’n obeithiol y byddwn ni wedi cwblhau erbyn y 6ed o Fai, mae’n bosib na fydd hynny wedi digwydd – mae’r cyfan yn nwylo’r cyfreithwyr. Ond ry’n ni’n falch iawn o fod wedi dod i gytundeb gyda Daphne a’r teulu sy’n golygu y bydd modd i ni ailagor hyd yn oed os nag yw’r pryniant wedi’i gwblhau. Ry’n ni’n ddiolchgar iawn iddyn nhw am eu cefogaeth a’u cydweithrediad parod.
Felly o ystyried hyn oll, ry’n ni’n ffyddiog bod gennym seiiau cadarn i fedru ailagor drysau’r Vale ar nos Wener y 6ed o Fai – rhowch y dyddiad yn eich dyddiadur!